Gwasanaethau
Shaw Trust yw un o’r darparwyr trydydd sector mwyaf o wasanaethau cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig. Bob blwyddyn gweithiwn gyda 50,000 o bobl i‘w helpu i gyflawni eu huchelgeisiau o ran cyflogaeth, iechyd a dysgu, yn ogystal â gweithio gyda phartneriaid lleol i helpu cymunedau lleol i ffynnu.
Darparwn wasanaethau arloesol o stafon uchel ar gyfer ystod o gomisiynwyr. Ymhlith y gwasanaethau y mae darpariaeth
cyflogaeth,
sgiliau a phrentisiaethau,
cyfiawnder,
iechyd meddwl a lles, a
prosiectau menter gymdeithsol a arweinir gan y gymuned. At hyn rydym yn rhedeg rhwydwaith o
siopau adwerthu elusennol ledled y Deyrnas Undedig, ac yn rhedeg ysgolion drwy
Ymddiriedolaeth Addysg Shaw. Gyda’r nod o sicrhau cynhwysiant i bawb, rydym yn buddsoddi unrhyw elw a wnawn mewn rhagor o fuddsoddiant cymdeithasol.
Gyda 30 o flynyddoedd o brofiad yn cefnogi pobl a gafodd eu hymyleiddio yn y gymdeithas i ddod dros rwystrau, ein nod yw mai ni fydd y prif ddarparwr yn y trydydd sector o wasanaethau cyhoeddus.
Os ydych chi’n teimlo y byddai'n fuddiol i chi dderbyn un o'r gwasanaetha y mae Shaw Trust yn eu cynnig, yna ewch i'r dudalen gwasanaeth berthnasol neu llenwch y
ffurflen gysylltu i ddod i gysylltiad â ni. Os oes gennych ddiddordeb mewn comisynu gwasanaethau gan Shaw Trust, ewch i'r dudalen
comisiynu ni.

Gwybodaeth am gomisiynu Shaw Trust