Gwasanaethau 50 oed ac yn hŷn
Mae Shaw Trust wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau i roi cymorth i bobl 50 ac yn hŷn i gael dyfodol mwy disglair drwy symud i mewn i gyflogaeth, ennill annibyniaeth a chymryd rheolaeth dros eu bywydau.
Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae Shaw Trust yn rhedeg y Rhwydwaith Oedran a Chyflogaeth (TAEN). Dyma adnawdd penodol i bobl hŷn sy’n ceisio gwaith neu sydd eisoes mewn gwaith.
Marchnad lafur amrywiol
Mae marchnad lafur amrywiol yn farchnad lafur effeithiol ac ni ddylai neb gael ei allgau o fod yn rhan ohoni ar sail oedran, anabledd, cyflwr iechyd neu unrhyw ffactor arall. Ewch i
wefan y TAEN (mae'n agor mewn ffenestr arall) i gael manylion llawn y gwasanaethau sydd ar gael.
Gwasanaethau ar gyfer ceisiwyr gwaith hŷn
TAEN yw canolfan arbenigedd Shaw Trust ar oedran a gwaith. Mae’r safle’n cynnwys gwybodaeth am y rhwystrau sy'n wynebu ceiswyr gwaith hŷn, am y farchnad swyddi a'r technegau gorau ar gyfer symud drwyddi. Mae'r wybodaeth hon wedi'i chrynhoi i ffurfio canllaw defnyddiol i geiswyr gwaith 50 a hŷn sydd ar gael i'w
darllen ar lein (mae'n agor mewn ffenestr newydd). Yn ogystal, mae ystod eang o adnoddau eraill ar gael i helplu ceiswyr gwaith hŷn i ddod o hyd waith ac i aros yn gweithio. Mae'r adnoddau hyn ar gael drwy
fynd i wefan TAEN (mae’n agor mewn ffenestr newydd).
Gwasanaethaur i gyflogwyr
Mae Shaw Trust hefyd yn darparu cefnogaeth i gyflogwyr er mwyn sicrhau eu bod yn elwa ar weithlu amrywiol sy’n cynnwys gweithwyr 50 a hŷn. Ewch i’n tudalen
gwasanaethau i gyflogwyr i gael rhagor o fanylion.
Deddfwriaeth Oedran
Mae’r Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Oedran) mewn grym ers 1 Hydref 2006. Maen nhw'n ymwneud â sawl agwedd ar fywyd gwaith i staff hŷn. Gall gweithwyr unigol a chyflogwyr elwa ar ddeall y rheoliadau ac rydym wedi cynnwys gwybodaeth amdanynt y gallwch ei
darllen ar wefan TAEN (mae’n agor mewn ffenestr newydd).
Y newyddion diweddaraf
Yn ogystal ag adnoddau defnyddiol a gwybodaeth am bolisiau, mae gwefan TAEN yn cynnwys eitemau o newyddion a’r diweddaraf am faterion cyfoes ar gyfer ac am weithwyr hŷn - gallwch
fynd i dudalen newyddion TAEN (mae’n agor mewn ffenestr newydd) i ddarllen yr eitemau diweddaraf o’r newyddion.
Os ydych chi’n gyflogwr sydd eisiau cael rhagor o wybodaeth am sut y gall eich busnes elwa ar gyflogi staff hŷn, ewch i dudalen
gwasanaethau i gyflogwyr Shaw Trust.
Os ydych yn berson hŷn sy’n chwilio am waith, neu sydd eisoes mewn gwaith ac sydd am aros yn y gwaith, cysylltwch ag Shaw Trust.
Cysylltu ag Shaw Trust am gyflogaeth 50+